Cysylltu Gofalwyr

Prosiect creadigol newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Dewch i ymuno â ni yn ein prosiect Cysylltu Gofalwyr newydd. Seibiant i ofalwyr fwynhau sgwrs gyfeillgar, bwyd a gweithgareddau celfyddydol mewn amgylchedd cynnes a chefnogol. Mae’r cyfan AM DDIM ac mae croeso i unrhyw un sydd dros 18 oed ac sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Bydd y grwpiau yn cyfarfod ym Mracla ar fore Gwener rhwng 10-12pm ac ym Metws ar ddydd Mawrth rhwng 11-1pm.  Defnyddiwch y ffurflen isod i gofrestru neu e-bostiwch [email protected] am unrhyw wybodaeth bellach.

Rydym eisiau lleihau pob rhwystr i bresenoldeb, felly os oes angen help arnoch gyda chostau teithio neu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad, rhowch wybod i ni.

Nid oes angen unrhyw brofiad o gelf a bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu.