Galwad am Gloriannydd ‘Breathing Space Ignite’ Tanio
Wyt ti’n gloriannydd prosiectau llawrydd sy’n arbenigo mewn neu gyda profiad yn defnyddio ‘Most Significant Change’?
Rydyn ni angen ti ar gyfer gwerthusiad o’m brosiect ‘Breathing Space Unite’ am llesiant gwell trwy celfyddydau a chreadigrwydd.
Rydyn ni’n edrych am gloriannydd prosiectau llawrydd sydd â phrofiad gyda neu dealltwriaeth cadarn o model gwerthusiad ‘Most Significant Change’. Mae prosiect ‘Breathing Space Ignite’ Tanio (wedi trawsgronni gan Cyngor Celfyddydau Cymru a mewn partneriaeth ag Awen Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol , ‘Mental Health Matters Wales’, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg) yn brosiect dynamig sy’n defnyddio gweithgareddau creadigol a chelfyddydol cyfranogwyr-gwybodus i wella iechyd meddwl a llesiant cyffredinol cyfranogwyr, tra lleihau arwahanrwydd ac unigrwydd a grymuso pobl yn eu lleisiau’u hun. Mae ‘Breathing Space Ignite’ yn cymryd lle’n wythnosol mewn 7 gwahanol lleoliad ar draws y bwrdd iechyd, a mae pob lleoliad yn gweithredu trwy cyfryngau celfyddydol gwahanol er mwyn cyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer defnyddwyr y wasanaeth. Mae’r gweithgareddau creadigol sy’n cymryd lle yn y wahanol lleoliadau yn cael eu arwain yn fawr gan cyfraniadau’r cyfranogwyr, er mwyn eu bod nhw’n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cyseinio gyda nhw.
Mae Tanio yn angen dy help i werthuso’r brosiect gan ddefnyddio model ‘Most Significant Change’, oherwydd rydyn ni’n ymwybodol o’i buddion a mae e’n alinio gyda’n gwerthoedd person-canoledig, ond nad ydym wedi’i cyflogi fel dull gwerthuso o’r blaen. Bydd dy arbenigedd a gwaith agos gyda ni yn sicrhau bod y werthusiad yn gadarn ac yn rhoi mewnwelediadau ac offer i Tanio i ddefnyddio ‘Most Significant Change’ yn y dyfodol.
Natur yr ymgysylltiad: Contract llawrydd (hunan-cyfolgedig)
Tâl: £4000 (cynhwysiol o VAT)
Mae’r tâl yn gynhwysiol o gyfanrwydd y teithio, yn ymweld â grŵpiau ‘Breathing Space Ignite’ ym Mettws, Parc Gweledig Bryngarw, Penybont Canolog, Maesteg, Nantymoel, Pontypridd a Phorthcawl
Am y cyfanswm tâl yma, rydyn ni’n disgwyl:
- Mynychu pob lleoliad ‘Breathing Space Ignite’ (7 lleoliad) unwaith ar y lleiaf
- Cynorthwyo cyfranogwyr wrth ysgrifennu’u straeon ‘Most Significant Change’
- Cynnal digwyddiad rhannu gyda rhanddeiliaid i werthuso’r straeon casgliadol a chanfod y straeon sy’n adlewyrchu’r newid mwyaf arwyddocaol
- Dosbarthu adroddiad ar y straeon ‘Most Significant Change’, yr allbynnau a canlyniadau, a’r broses; dylai’r adroddiad adlewyrchu cydweithiad â Tanio sy’n helpu Tanio i ddeall a darganfod sut mae ‘Most Significant Change’ yn alinio gyda’n gwaith a’i defnyddioldeb ar gyfer y dyfodol
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Dal DBS dilys neu’n barod i ymgymryd ag un
- Cael dealltwriaeth o’r celfyddydau er budd iechyd a lles, mewn lleoliadau cymunedol neu gofal iechyd, sydd ddim yn dod o dan therapi celfyddydau
- Agored i gydweithrediad, yn empathetig ac yn cynnal proffesiynoldeb i safon uchel
- Cydymffurfio â polisïau Iechyd a Diogelwch Tanio a rheoliadau statudol, gan gynnwys pob agwedd o GDPR a casglu data
- Cael record trac mewn gwerthusiad prosiectau dynamig, a dealltwriaeth cadarn o neu profiad gyda model ‘Most Significant Change’
Hŷd y Contract (bydd yr union dyddiadau yn cael eu penderfynu gyda’r ymgeisydd llwyddiannus):
- Ymweliadau i grŵpiau ‘Breathing Space Ignite: canol Ebrill – canol Gorffennaf 2025
- Digwyddiad rhannu a gwerthuso â rhandeiliaid: Awst 2025
- Adroddiad yn ddyladwy: diwedd Medi 2025
Beth i wneud os wyt ti â ddiddordeb?
Danfona llythyr clawr (dim mwy na 500 gair) yn manylu dy cyfaddasrwydd am y safle os gwelwch yn dda, gyda manylion penodol o sut rwyt ti wedi defnyddio ‘Most Significant Change’ neu o dy ddealltwriaeth o’r model. Hefyd, cynhwysa enghraifft ar wahân o werthusiad rwyt ti wedi gwneud, os gwelwch yn dda. Danfona’r cais i [email protected]
Rydyn ni hefyd yn hapus i dderbyn ffurfiau eraill o gyflwyniad, megis fidio neu sain (5 munud ar y mwyaf).
Terfyn amser y cais yw canol dydd ar Ddydd Gwener y 21ain o Fawrth 2025. Byddwn yn ymateb i bob ymholiad.