Tobias Robertson – Hwyluswr Lle i Anadlu
Mae Tobias yn berfformiwr llwyddiannus (gwyliwch ei chlyweliad ar gyfer Y Llais os hoffwch weld yn union pa mor dalentog yw e) sydd wedi dechrau’r symudiad i mewn i waith gyda ffocws ar gymuned ac iechyd. Mae ymuno Tanio fel artist ar ein Rhaglen Lle I Anadlu yn rhan o’r symudiad yna ac rydyn ni’n cydnabod y sgiliau anhygoel a’r brwdfrydedd mae o’n cyfrannu.
‘Y peth sydd wedi bod yn wych am wneud y gwaith yma yw’r gefnogaeth rydw i wedi cael. Hyn yw’r grŵp gyntaf rydw i wedi rhedeg fel prif hwyluswr ac o’n i’n nerfus i ddechrau – wnes i gysgodi Tom ar gyfer y sesiynau gyntaf, wedyn defnyddio’r strwythur a rhai o’r gweithgareddau i adeiladu gweithdai fy hun. Roedd gwybod bod y gefnogaeth yna os o’n i angen o yn wneud i fi teimlo’n hyderus yn fy ngwaith.’
‘Dwi wir yn angerddol am helpu cefnogi pobl eraill ac ar hyn o bryd dwi’n astudio am gymhwyster Cwnsela Lefel 3. Er na fyddaf yn gwneud gwaith cwnsela yn Lle I Anadlu – dwi’n defnyddio’r sgiliau dwi’n dysgu ynghyd a cherddoriaeth i gael effaith positif ar y grŵp.’
‘I weld hunanhyder y cyfranogwyr datblygu, jyst o’r sesiynau wythnosol awr a hanner, mae o jyst yn beth anhygoel i fod yn rhan ohono.’
Emily Ruck, Rheolwr Prosiect
– Celf ac yr Amgylchedd
Dechreuodd Emily wirfoddoli yn Tanio yn 2019 yn ystod ei gradd israddedig Seicoleg yn USW. Cyfunodd hi ei hastudiaethau gyda gwirfoddoli yn brosiect Celfyddydau Coedwig am blant gyda phroblemau ymddygiad:
‘Gyda chariad am yr awyr agored a diddordeb mewn seicoleg, gweithiodd hyn mas fel y cyfuniad gorau i fi. Gyda chefnogaeth Tanio, fe ges i’r cyfle i fod yn ymarferydd llawrydd Ysgol Coedwig a Chelf.’
Datblygodd Emily o wirfoddolwr i weithiwr llawrydd, yn cydbwyso ei gwaith llawrydd gyda chwblhau ei BSc ac ymgymryd MSc mewn Dadansoddiad Ymddygiad a Therapi. Cefnogwyd hi hefyd gan Tanio i gyflawni Ardystiad Lefel 3 Ysgol Coedwig. Roedd Emily yn gallu gweithredu ei hadnabyddiaeth a sgiliau seicoleg yn Deffro’r Tymhorau, prosiect sylweddol Tanio yn ystod ac ar ôl y pandemig oedd yn helpu plant datblygu’r gallu i enwi ac ymdopi gyda’u hemosiynau. Mae rôl Emily wedi datblygu unwaith eto, yn cyfuno ei gwaith ymarferydd celfyddydau gydag ymgymryd rôl Rheolwr Prosiect am Gelf ac yr Amgylchedd yn Tanio.
‘Gyda’r profiad o fod yn ymarferydd, mae’n wych i weld ochr arall i’r gweithdai a digwyddiadau ac i weld yr holl waith sy’n mynd i mewn iddyn nhw o’r cefndir.’