Cyfranogwr A
Mae Cyfranogwr A yn mynychu ein grŵp Lle i Anadlu yn bencadlys Tanio yn Fetws. Maen nhw’n berson oedrannus (50+) gydag anghenion cymhleth a chyflyrau iechyd hir tymor. Wnaethon nhw rannu gyda ni’r elwau maen nhw wedi teimlo o fynychu grwpiau wythnosol Lle i Anadlu:
‘Mae Lle i Anadlu wedi rhoi’r hyder oeddwn i wedi colli yn ôl i fi ac wedi helpu fi gadael y tŷ a chwrdd â phobl newydd. Dwi’n argymell o i bawb..’
‘Dwi’n caru Lle i Anadlu a dwi ddim yn siŵr beth fyddwn i’n gwneud hebddo. Dwi wir wedi mwynhau dysgu pethau newydd a gwneud gwaith crefft. Dwi wir wedi caru’r ochr cymdeithasol o’r grŵp hefyd – mynd yn wythnosol pryd oeddwn i’n iawn a chwrdd â phobl newydd a chreu ffrindiau newydd. Roeddwn i’n hoff o ddysgu o’r tiwtor ac roedd rhai o’r cyfranogwyr yn iau na fi, felly nes i fwynhau’r gymysgedd o genedlaethau. Dwi wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ac mae fy merch wedi dechrau dod gyda fi hefyd sydd wedi bod yn hyfryd. Dwi’n argymell o i bawb! Mae o wedi helpu i fi teimlo’n hyderus unwaith eto.’
‘Dydych chi ddim yn sylweddoli pa mor bwysig yw o i ni ddod yma pob wythnos. Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr.’
Cyfranogwr B
Mae Cyfranogwr B, sy’n oed 40+ ac yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl, wedi rhannu sut mae mynychu ein grŵp wythnosol Lle i Anadlu yn bencadlys Tanio yn Fetws wedi helpu iddyn nhw ymdopi gydag ynysiad ac ymdrin â phroblemau personol.
‘Mae’n gwneud i fi gadael y tŷ ac yn helpu fi ymdopi gydag ynysiad. Dwi wedi dod pob wythnos ers i fi ddechrau a dwi’n ffeindio’r grŵp yn gefnogol iawn a dwi’n gwneud ffrindiau newydd.’
‘Mae’r grŵp yn wir wedi helpu fi ymdopi ar ôl sefyllfa bersonol anodd iawn yn ystod dechrau’r flwyddyn ddiwethaf – dwi ddim yn gwybod beth fyddwn i wedi gwneud hebddo.’
‘Dwi’n ffeindio fy mod yn gallu ymlacio a dwi wastad yn teimlo mewn hwyl fwy uchel. Fel heddiw, o’n i beidio wedi bod mas o’r tŷ yr wythnos yma nes i fi ddod ymlaen ac mae o wedi gwneud i fi teimlo’n llawer gwell. Mae creu’r gelf yn wir yn helpu fi ymlacio – mae’n helpu fy ymennydd i arafu sef rhywbeth dwi angen ambell waith.’
Wnaethon nhw rannu oedden nhw ‘bach yn ansicr’ am ymuno i ddechrau oherwydd bod ganddyn nhw ‘ddim hyder mewn celf’, ond bod y gweithdai wedi helpu iddyn nhw adeiladu’r hyder i drio gweithgareddau creadigol newydd:
‘[Mae’r gweithdai yn] addysgiadol, dwi’n trio pethau gwahanol ni fyddwn yn cael y cyfle i wneud fel arall. Mae’n gyfeillgar a bleserus. Mae’r lleoliad yn neis ac mae’r staff yn gefnogol iawn – dwi wastad yn teimlo fy mod yn gallu gofyn os dwi angen help gydag unrhyw beth. Mae’n greadigol iawn, dwi’n hoffi creu’r gwahanol bethau a datblygu sgiliau newydd.’
Ers mynychu’r sesiynau Lle i Anadlu wythnosol, mae Cyfranogwr B hefyd wedi dechrau gwirfoddoli yn ystod ein digwyddiadau. Maen nhw’n berson gwerthfawr yn ystod pob digwyddiad maen nhw’n mynychu, yn dangos ei hun i fod yn ddibynadwy, rhagweithiol, a gwastad yn barod i helpu. Maen nhw’n argeisio’n weithredol am fwy o ffyrdd i gyfrannu a chymryd rhan, sy’n adlewyrchu’r gwelliant yn ei hyder fel canlyniad o Le i Anadlu.