Mae Tanio Cymru yn elusen sy’n gweithredu trwy gyllid o Gyngor Celfyddydau Cymru ac amryw o wahanol sefydliadau cymhorthdal. Er mwyn cefnogi anghenion y bobl rydyn ni yn barod yn helpu, a’r bobl sydd o hyd yn wynebu rhwystrau i ddefnyddio ein gwasanaethau, mae’n hanfodol bod ni o hyd yn codi arian i sicrhau darpariaeth barhaol o wasanaethau a darparu gwasanaethau newydd ar gyfer pobl sydd ddim ar hyn o bryd yn elwa o gelfyddydau yn eu cymuned.
Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi gefnogi Tanio.
- Gallwch wneud cyfraniad uniongyrchol i ein PayPal.
- Gallwch gefnogi un o ein digwyddiadau.
- Gallwch gyfrannu deunyddiau.
- Gallwch rannu’n gwaith rydyn ni’n gwneud ar gyfryngau cymdeithasol. Siaradwch amdanom ni a rhannu profiadau gyda phobl eraill.
Yr ap #easyfundraising yw’r ffordd hawsach i godi arian ar gyfer Tanio pryd rydych chi’n siopa ar eich ffôn symudol. Mae’n hollol DDI-DÂL ac ar gael ar iOS ac Android, felly lawrlwytho fo nawr os gwelwch yn dda er mwyn peidio colli mas ar unrhyw gyfraniadau ar gyfer ni!
Rydyn ni fel tîm ar holl bobl rydyn ni’n cefnogi yn wythnosol yn ddiolchgar iawn am unrhyw beth allwch gyfrannu.
Gyda’ch help, bydd mwy o bobl yn elwa o’r effaith bendigedig all celf a mynegiad cael yn ein cymuned.