Choose // Dewis – Gweithdy Theatr Gerdd!

Dyma eich cyfle i ddod yn seren theatr gerddorol! Archebwch ofod isod ar gyfer CHOOSE // DEWIS, prosiect newydd Tanio am ddod â democratiaeth leol i’r llwyfan, gan ddefnyddio cân a drama. Meddyliwch am Hamilton, ond yn y Cymoedd!

Mae’r cyfle hwn ar gael i bawb rhwng 11 a 15 oed.

Trwy gyfres o weithdai ym Mhencadlys Tanio (Canolfan Cyfryngau Sardis, CF32 8SU), byddwch yn gweithio gydag artistiaid proffesiynol i greu darn newydd sbon o theatr gerddorol. Byddwch yn ysgrifennu’r caneuon, y geiriau a’r golygfeydd a fydd yn adrodd y stori. Byddwch hefyd yn clywed yn uniongyrchol gan bobl sy’n weithgar mewn democratiaeth leol, i ddysgu mwy am pam mae pleidleisio’n bwysig, sut y gall pobl leol wneud gwahaniaeth, a pham mai eich hawl chi yw dweud eich dweud.

Fel rhan o CHOOSE // DEWIS, byddwn yn gwneud taith i’r Senedd ym Mae Caerdydd i ddysgu mwy am ddemocratiaeth, ac am bryd o fwyd am ddim! Bydd cyfranogwyr sydd wedi mynychu 3 neu fwy o sesiynau ar adeg y daith yn gymwys i ddod draw. Mae mwy o fanylion ar gael ar ein ffurflen caniatâd!

Bydd perfformiad y sioe theatr gerdd newydd sbon yn cael ei chynnal ym mis Ionawr 2025 (dyddiad, amser a lleoliad i’w cyhoeddi). Trwy gofrestru ar gyfer CHOOSE // DEWIS, rydych yn cytuno i ymrwymo i’r sioe, a byddwch yn blaenoriaethu bod yn y perfformiad a chymryd rhan, oni bai bod argyfwng neu salwch teuluol yn golygu na allwch wneud hynny.

Am fwy o fanylion, darllenwch y ffurflen ganiatâd sydd wedi’i chynnwys yma: https://forms.office.com/e/6gNrMA4iEP

Ni chadarnheir eich lle yn CHOOSE // DEWIS nes eich bod wedi archebu lle AC wedi cyflwyno ffurflen ganiatâd wedi’i llofnodi i Tanio.