DEWIS // DEWIS
ARIANWYD GAN:


DEWIS // Prosiect arloesol i addysgu pobl ifanc am ddemocratiaeth leol yng Nghymru oedd DEWIS. Gan ddefnyddio theatr a chân, dysgodd y cyfranogwyr am strwythurau a phrosesau lleol mewn gwleidyddiaeth. Dysgon nhw hefyd am Lywodraeth Cymru, gyda thaith i’r Senedd a chyfleoedd i glywed gan bobl sy’n gweithio ym myd gwleidyddiaeth a’r sector cyhoeddus.
Yn ystod pedwar mis o weithdai, defnyddiodd y bobl ifanc eu gwybodaeth newydd i ysgrifennu darn theatr gerdd gwreiddiol, a berfformiwyd ganddynt i dŷ llawn dop ym mis Ionawr 2025. Roedd y cynhyrchiad yn ddeinamig ac yn egnïol, ac yn canolbwyntio ar fater a oedd yn wirioneddol bwysig i’r cyfranogwyr: cost uchel trafnidiaeth gyhoeddus. Amlygodd y sioe yr hyn yr oedd y bobl ifanc wedi’i ddysgu am ddeisebau, protestiadau, a llwybrau eraill i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed mewn gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol.