Gaeaf Cynhesach
ARIANWYD GAN:
​
Gydag adroddiadau cynyddol o eco-bryder yn achosi dirywiad iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, mae Gaeaf Cynhesach wedi’i gynllunio i rymuso pawb sy’n cymryd rhan i ddeall Newid yn yr Hinsawdd a sut y gallwn gael effaith gadarnhaol ar y blaned yn ein bywydau o ddydd i ddydd. Wrth ei graidd mae’r neges bwysig bod Newid Hinsawdd angen ateb byd-eang, ac nad oes angen i unrhyw unigolyn ysgwyddo’r holl euogrwydd na’r holl bryder o’i gwmpas. Gyda'n gilydd, gallwn weithio i adeiladu gwell yfory. Crëwyd Gaeaf Cynhesach yn wreiddiol gyda phlant ysgol o Ysgol Heronsbridge, ac mae wedi gweld llwyddiant mawr o ran cyflwyno i deuluoedd, syn gallu mynd â r themâu a r syniadau yn ôl i w bywydau cartref. Mae Gaeaf Cynhesach ar gael iw gyflwyno unrhyw adeg or flwyddyn, er ein bod yn argymell misoedd y gwanwyn a r haf. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy ac i gael dyfynbris dosbarthu pwrpasol ar gyfer eich ysgol neu grŵp!

