Cysylltiadau Creadigol || Gofod Seibiant
Mae Cysylltiadau Creadigol || Gofod Seibiant yn defnyddio’r celfyddydau a chreadigrwydd i ymgysylltu â phobl sy’n profi (neu sydd wedi profi) problemau iechyd meddwl ac unigrwydd.
Yn ystod y pandemig, fe wnaethon ni greu amgylchedd diogel ar-lein lle gall pobl gwrdd ag eraill, teimlo cysylltiad ac adeiladu ar eu cryfderau a’u doniau. Gwnaethon ni ddefnyddio dull grymusol o weithio mewn ffordd gydweithredol i wella lles ac ansawdd bywyd cyfranogwyr. Trwy archwilio cyfryngau cymysg ac annog cyfranogwyr i ystyried eu diddordebau a’u doniau eu hunain, fe wnaeth y grŵp nid yn unig greu eu gwaith celf eu hunain ond hefyd cydweithredu gyda’i gilydd ochr yn ochr â Tic Ashfield, yr hwylusydd proffesiynol, i greu albwm o gerddoriaeth, gair llafar a barddoniaeth.Gwnaethon ni hefyd ddefnyddio technegau ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod ar ddechrau pob sesiwn i helpu i adeiladu gwytnwch cyfranogwyr.
Roedd Cronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru yn ddigon caredig i ariannu’r prosiect trwy Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg
Daeth y prosiect i ben gydag arddangosfa ar-lein ac albwm SoundCloud yn arddangos gwaith y cyfranogwyr, y gallwch eu gweld yma:
DOLEN I’R ARDDANGOSFA – i ddilyn
Dyfyniadau
“… Mae wedi bod yn adnodd mawr ei angen yn ystod cyfnod mor ansicr a heriol.”
“… Mae wedi fy helpu i gadw mewn cysylltiad ac mae wedi rhoi cyfle i rywbeth arall gymryd fy sylw”