Canllawiau Gang y Goedwig
Er mwyn ysbrydoli ac ennyn diddordeb ein cynulleidfa deuluol gyda gweithgareddau yn yr awyr agored ym myd natur a sgyrsiau ar lesiant, gweithion ni gyda’r darlunydd Sophie Marsh i greu ein Gang y Goedwig a chydag arweinydd o Forest School i ddatblygu ein canllawiau.
Cwrdd â’n Gang y Goedwig
- Y Llwynog – Arweinydd yr Ysgol Goedwig
- Y Moch Daear – y Cynghorydd Llesiant
- Y Gnocell, y Falwen a’r Draenog – y dysgwyr
Sganiwch y codau QR ar bob dalen i gael mynediad at y sesiynau tiwtorial ar Tanio TV ac i weld y ffocws synhwyraidd ym mhob dalen fel y mae ein heiconau yn nodi, er mwyn i’ch plant ymgolli’n llwyr mewn natur.
Cliciwch ar y dolenni isod i weld a lawrlwytho ein taflenni gwaith i ymgysylltu, ysbrydoli ac annog sgyrsiau ar lesiant wrth gael hwyl yn yr awyr agored.
Bwydwr Adar allan o Afal
Celf gyda Dail
Cartref Bach i Anifeiliaid
Ffrâm Natur
Mandala Natur
Person allan o Frigau
Coron Helyg
Dreamcatcher Helyg
Creadur Clai y Coetir
Ffon Hud y Goedwig
Cefnogodd Sefydliad Paul Hamlyn y gweithgaredd hwn yn hael trwy raglen a gafodd ei drefnu gan Engage, y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Addysg Oriel.
Dyfyniadau