Prosiect Tsuru

Roedd Prosiect Tsuru yn brosiect staff cydweithredol 8 wythnos o hyd wedi’i leoli yn yr ysbyty maes, Ysbyty’r Seren, a ddaeth i ben gyda gosodwaith gweledol ar 23 Mawrth 2021: dyddiad ingol, flwyddyn yn ddiweddarach ers i’r DU fynd i gyfyngiadau symud cenedlaethol oherwydd COVID-19.
Yn ystod y pandemig, cafodd ei adrodd yn eang yn y wasg fod staff y GIG a rhai o asiantaethau wedi profi straen, pryder ac iselder ysbryd. Yn aml, maen nhw’n gweithio mewn adrannau prysur a dan bwysau i ddarparu’r gofal sydd ei angen ar y rhai sy’n yn dioddef gyda COVID-19 i oroesi. I rai staff, hwn yw’r gofal y mae angen iddyn nhw ei ddarparu i’w cydweithwyr eu hunain. Mae’r hyn y mae’r staff hyn wedi bod drwyddo dros y 9 mis diwethaf wedi bod yn anhygoel o anodd ei roi mewn geiriau, ond nod prosiect Tsuru oedd eu grymuso gyda 5 munud o ymwybyddiaeth ofalgar syml, lle gallant gael eiliad fach o heddwch, dysgu sgil newydd, a chyfrannu pan fyddan nhw’n dymuno at ddarn trawiadol ac ingol o gelf weledol gydweithredol.
Yn niwylliant Japan, mae’r Tsuru (neu’r garan) yn symbol o obaith mewn cyfnod anodd, ac roedd hyn yn berthnasol i gynifer o unigolion y tyfodd y prosiect yn gyflym i gynnwys nid yn unig staff o Ysbyty’r Seren, ond hefyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ehangach, a hyd yn oed aelodau o’r cyhoedd. Derbyniodd Tanio dros 400 o aranod a wnaed gan bobl ledled De Cymru a chawsant eu cysylltu gyda’i gilydd i wneud gosodwaith celf gweledol drawiadol ym Mhencadlys Tanio ym Metws.
“… roedd yn gyfle i mi fynd â’m meddwl i oddi ar bethau”
Gallwch ddysgu rhagor am y prosiect a’i effaith trwy’r fideo hwn:
Dyfyniadau
“… it was an opportunity for me to take my mind off things”