Celfyddydau’r Goedwig a Dysgu yn yr Awyr Agored
Cafodd ein rhaglen bwrpasol o Gelfyddydau’r Goedwig ei chreu gan dîm o arweinwyr ac artistiaid sydd wedi cwblhau Ysgol Goedwig Lefel 3. Trwy awydd i ysbrydoli creadigrwydd a gwella llesiant, trwy weithio gyda, mewn ac ar gyfer natur, rydyn ni wedi creu rhaglen o gelf a chrefft sy’n gynhwysol ac yn hwyl.
Trwy ein rhaglenni, mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gweithio gyda deunyddiau naturiol sydd ar gael trwy’r tymhorau. Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i wehyddu helyg a chymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous fel creu fframiau natur a llusernau dail. Rydyn ni’n gweithio gyda deunyddiau fel clai i greu angenfilod clai, pobl allan o frigau ac wynebau mwd ac yn cael hwyl yn adrodd straeon ac ysgogi trafodaethau ochr yn ochr â’r gweithgareddau hyn. Wrth wneud cuddfannau ac adeiladu tanau, rydyn ni hefyd yn mynd â chyfranogwyr ar daith i fyd cyffrous gwylltgrefft a sgiliau goroesi.
Mae tystiolaeth bod dysgu yn yr awyr agored yn dda i’n llesiant trwy ddod â ni yn agosach at natur. Mae gweithgareddau fel adeiladu cartrefi i bryfed, abwydfeydd a bwydwyr adar allan o afalau yn dod â’r cyfranogwyr yn agosach at natur, yn ysgogi trafodaethau am fywyd gwyllt a chynefinoedd ac yn arwain at rannu gwybodaeth. Yn ei dro, bydd hyn yn cynyddu ein hymwybyddiaeth o gynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a diogelu’r amgylchedd naturiol.
Mae gan ein rhaglen athroniaeth Ysgol Goedwig mewn golwg – cysylltu ag eraill, archwilio a chael hwyl. Mae gweithgareddau tîm, gemau ac ymwybyddiaeth ofalgar hefyd wrth wraidd rhaglen Celfyddydau’r Goedwig Tanio ac yn gweithio i ysgogi, hybu hunanhyder a chodi uchelgais.
Mae ein harweinwyr wedi creu canllawiau a sesiynau tiwtorial ar Tanio TV i ddangos pa mor hawdd a syml yw bod yn greadigol yn yr awyr agored. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Llusern Dail yr Hydref
- Seren Helyg
- Addurno Pwmpenni
- Adeiladu eich rafft eich hun
- Ffrâm Flodau
- Dreamcatcher Helyg
- Cwcis Emosiwn allan o Bren
- Cartref i Bryfed
- Plannu Bylbiau
- Person allan o Frigau
- Mandala ar y Llawr
- Creaduriaid Clai
- Ffon Hud Helyg
- Coron y Goedwig
Dyfyniadau
From the participants
“I enjoyed going outside more.”
“I liked doing art outside.”
“I like watching nature and playing games.”
“I wouldn’t normally go outside but now I love it.”
“Colouring pebbles outside made me feel a lot happier than indoors.”
From teachers,
“It opened up a world of fun outside.”
“The mindfulness made us feel really calm and ready for our day.” “
My pupils were so much more engaged in creativity outdoors than inside.”
“We are definitely going to use Spring Forward in our Wellbeing Wednesdays.”
We will use Spring Forward in our planning for the future.”