Lle i Anadlu
Beth yw Lle i Anadlu:
Grwpiau creadigol wythnosol ar gyfer iechyd, lles a hapusrwydd. Dewch i drio mas celf, cerddoriaeth, symudiad ac ysgrifennu creadigol mewn amgylchedd cyfeillgar a gefnogol. Does dim angen unrhyw brofiad i ddod a chymryd rhan, rydyn ni’n darparu’r holl ddeunyddiau ac offer ac mae’r grwpiau i gyd am DDIM.
‘Mae Lle i Anadlu wedi rhoi’r hyder o’n i wedi colli i fi ac wedi helpu fi gadael fy nhŷ a chwrdd â phobl newydd. Dwi’n argymell o i bawb.’
Pwy yw o ar gyfer?
Unrhyw un sydd dros 18 oed yn byw mewn neu yn agos i fwrdeistref Pen-y-bont.
Os ydych chi’n cael trafferth gydag unigedd neu ynysiad, iechyd meddwl neu gorfforol gwael neu jyst yn teimlo’r angen am wyneb cyfeillgar, ffeindiwch grŵp yn agos i chi a dewch ymlaen.
Beth yw’r lles I fi?
Mae cyfranogion wedi adrodd nifer o elwau o ddod i’r grwpiau, yn cynnwys:
- Angen gostyngol am feddyginiaeth
- Adeiladu rhwydweithiau cefnogaeth
- Teimlo’n well
- Mwy o gysylltiadau cymdeithasol
- Ffrindiau newydd
- Gallu deall ac ymdopi gydag emosiynau
- Datblygu sgiliau cyfathrebu ac empathi
- Hunan-barch gwell
Pryd yw o?
Mae grwpiau yn rhedeg yn wythnosol ond yn cael egwyl o gwmpas gwyliau ysgol.
Pen-y-bont Canolog
Dydd Llun
1yp – 2:30yp
Mental Health Matters
Union Offices
Quarella Road
CF31 1JW
Ffocws ar gerddoriaeth
Cwm Ogwr
Dydd Mawrth
11yb – 1yp
Clwb Bechgyn a Merched Wynham
14-16 Dunraven Place
CF32 7ET
Betws
Dydd Mercher
11yb – 1yp
Canolfan Cyfryngau Sardis,
Heol Dewi Sant,
CF32 8SU
Porthcawl
Dydd Mercher 12.30yb – 2.30yp
Canolfan Cymunedol Awel-y-Mor
Hwtchwns Terrace
CF36 5TN
Parc Bryngarw
Dydd Gwener
2yp – 4yp
Canolfan Addysg Y Nyth
Parc Gwledig Bryngarw
CF32 8UU