Tanio: Cyflwyno’r enw newydd, gwedd newydd a dyfodol newydd disglair i Gelfyddydau Cymunedol y Cymoedd a’r Fro
Ers dechrau’r 1980au, pan gafodd Celfyddydau Cymunedol y Cymoedd a’r Fro ei sefydlu i helpu pobl yng Nghwm Garw i ddogfennu eu profiadau o streic y glowyr, rydym wedi hyrwyddo’r ffordd y gall celfyddydau cymunedol newid bywydau.
O’r dyddiau cynnar hynny, ein nod erioed fu cynnig amgylcheddau diogel lle rydym yn darparu ystod o weithgareddau creadigol i helpu ystod amrywiol o bobl i ddatblygu sgiliau newydd, hyder a hunan-barch. Mae’r cyfloedd hyn i bobl gyfoethogi eu bywydau trwy hunanfynegiant creadigol wedi bod yn allweddol i’n gweledigaeth gyffredinol.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod y byd yn newid, ac felly mae rhaid i Gelfyddydau Cymunedol y Cymoedd a’r Fro newid hefyd. Felly, er mwyn mynd ar drywydd unrhyw weledigaeth yn y dyfodol, gwnaethom benodi Prif Weithredwr newydd, Lisa Davies, yn ddiweddar i oruchwylio ailstrwythuro sylweddol a'n harwain i oes newydd gyffrous.
Yn ystod y broses hon, gwnaethom sylweddoli bod ein brand gwreiddiol wedi bod yn effeithiol iawn i ni ers bron i bedwar degawd. Mae wedi bod gyda ni o’n dyddiau fel grŵp cymunedol bach i fod yn arweinydd yn y sector sy’n uchel ei barch. Rydym yn parhau’n ymroddedig i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yng Nghymru, fodd bynnag, rydym hefyd eisiau atgyfnerthu a datblygu ein gwaith ledled Cymru, y DU a gwledydd eraill, er mwyn rhannu mewnwelediadau creadigol a helpu i danio ffyrdd newydd o feddwl.
Felly fe wnaethom benderfynu ei bod hi’n amser am newid. Mae ein brand newydd yn adlewyrchu ein taith yn fawr iawn ac mae hefyd yn crynhoi lle’r ydym nawr ac i ba gyfeiriad yr ydym yn mynd.
Tanio yw enw newydd Celfyddydau Cymunedol y Cymoedd a’r Fro.
Mae Tanio yn frand cadarnhaol sy’n llawn egni a chynhesrwydd a gynrychiolir gan logo sy'n cyfleu hanfod a bywiogrwydd ein sefydliad.
Mae ‘tanio dychymyg’, ‘tanio newid’ a ‘thanio creadigrwydd’ yn ymadroddion sy’n gynrychiadol iawn o’r gwaith rydym yn falch o’i gyflawni’n feunyddiol.
Dywedodd Lisa Davies, y Prif Weithredwr, wrth sôn am ein brand newydd:
“Mae ein degawdau o ddarparu ymyriadau yn y celfyddydau i gymunedau mewn angen wedi dangos i ni pa mor bwerus yw celf wrth greu newid cadarnhaol. Ar lefel unigol, mae ein gwaith yn adeiladu hunan-barch a hyder, ac ar lefel gymunedol, mae ein gwaith yn meithrin ac yn cryfhau grwpiau, gan rymuso pobl i gefnogi ei gilydd. Credwn fod ein henw newydd yn cyfleu'r syniad hwnnw o sbarduno newid a chynnydd.”
“Mae ein brand newydd yn cynrychioli newid mawr yn y ffordd rydym yn cyflwyno ein hunain i'r byd. Mae Celfyddydau Cymunedol y Cymoedd a’r Fro yn newid oherwydd bod y byd o'n cwmpas yn newid. Weithiau mae gan y bobl rydym yn gweithio gyda nhw fywydau ac anghenion cymhleth. Ond yr un peth na fydd byth yn newid yw ein penderfyniad i roi'r cyfleoedd a'r profiadau celfyddydau cymunedol gorau oll i bobl.”
“Bydd ein gwaith yn dod yn bwysicach nag erioed yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod. Fel sefydliad, daethom i fodolaeth yn ystod argyfwng cenedlaethol i helpu pobl yng Nghwm Garw i ymdopi â chyfnod o gynnwrf a newid mawr. Wrth i ni edrych ymlaen at y cyfnod yn dilyn yr argyfwng Coronafeirws byd-eang, byddwn yma i helpu ein cymunedau i ailadeiladu, gan roi cyfleoedd iddynt fynegi eu gobeithion a'u hofnau trwy bŵer celf.”
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ar ein gwedd newydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Gallwch gysylltu â'n Prif Weithredwr, Lisa Davies, trwy anfon e-bost at [email protected]
Hefyd, gwnaethpwyd ein hailfrandio gan yr arbenigwyr brandio dwyieithog Elfen. Gallwch edrych ar eu gwaith trwy glicio yma.