Sam Davies, Ysbyty Cymunedol y Barri
Creadigrwydd sy’n Canolbwyntio ar y Person, Cyngor Celfyddydau Cymru
Prosiect Adfer Sam Davies
Dros gyfnod o ddwy flynedd rydym wedi bod yn gweithio gyda staff a chleifion yn Sam Davies, sef ward adfer yn Ysbyty Cymunedol y Barri, yn hyfforddi staff gofal mewn creadigrwydd sy’n canolbwyntio ar y person ac yn hwyluso sesiynau cerdd/celfyddydau wythnosol gyda 10-15 o gyfranogwyr. Mae mwyafrif y cleifion mewn oed, rhai ohonynt gyda dementia.
Gall aros yn hir yn yr ysbyty effeithio ar iechyd meddwl cleifion, a gall hyn arwain at arafu eu hadferiad corfforol. Trwy gyfrwng y celfyddydau, rydym yn creu amgylchedd lle y gall unigolion ymlacio a chael cyfle i gryfhau.
Mae’r sesiynau’n anelu at wneud y canlynol:
- Chwalu unigedd
- Annog cleifion i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a chael hwyl
- Rhoi rhywbeth i gleifion allu canolbwyntio arno, ynghyd â rhywfaint o reolaeth
- Gwella’r amgylchedd ar y ward
Hwyluswyr: Ruth Bradshaw a Katja Stiller
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â Ruth Bradshaw ar 01656 729246.
Dyfyniadau
“Rhoddodd y sesiynau rywbeth i’r cleifion edrych ymlaen ato a rheswm dros godi o’r gwely. Mae cymryd rhan yn eu helpu i wella.”
Linda Edwards (Rheolwr y Ward)
“Rhaid oedd ichi fy llusgo i mewn i’r fan hon, ond yn awr rhaid ichi fy llusgo allan, oherwydd dw i ddim eisiau i’r sesiynau orffen.”
(Un sy’n cymryd rhan)
“Ers i chi ddod, rydym wedi dechrau eistedd mewn cylch a siarad gyda’n gilydd, hyd yn oed pan nad ydych chi yma.”
(Un sy’n cymryd rhan)