Cyhoeddi Chris Lloyd fel Gwneuthurwr Ffilm Preswyl Cyntaf Tanio
Rydym ni yn Tanio yn gyffrous i gyhoeddi y byddwn yn croesawu ein Gwneuthurwr Ffilm Preswyl cyntaf – yr hynod dalentog Chris Lloyd. Mae Chris Lloyd wedi gweithio ar brosiectau sydd wedi mynd ag ef ledled y byd, gan weithio gyda rhai o’r enwau mwyaf dylanwadol ym myd theatr a ffilm, ac mae ganddo ôl-gatalog trawiadol o brosiectau personol. Mae ei angerdd mewn creu ffilmiau dogfen ac mae’n mwynhau adrodd y straeon sy’n llai adnabyddus, o gyrion cymunedau.
Magwyd Chris Lloyd yma yn Bettws ac mae’n falch iawn o’i wreiddiau ac yn edrych ymlaen at ymgysylltu â’i gymuned trwy ffilm – “Mae Tanio yn canolbwyntio’n fawr ar y gymuned gyda thîm angerddol sy’n cyflwyno gwaith pwysig sy’n herio syniadau a chanfyddiadau, gan ddarparu cyflwyniad rhagorol i’r celfyddydau i bobl Bettws a’r ardaloedd cyfagos. Neidiais ar y cyfle i ddod yn rhan o hynny.”
Mae Chris Lloyd wedi gweithio’n agos gyda’r tîm ers ddechrau 2020 i gyflwyno Tanio TV – cyfres barhaus o diwtorialau crefftus, a sbardunodd y syniad i gael Chris Lloyd ar fwrdd fel gwneuthurwr ffilmiau preswyl. Mae Lisa Davies wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol Tanio ers 2019 ac mae’n nodi bod cysylltu ag artistiaid newydd bob amser yn flaenoriaeth ac roedd y cyfnod preswyl hwn yn cyd-fynd yn berffaith â hyn: “Trwy weithio gyda Chris yn ystod y pandemig a dysgu mwy am ei fywyd yn Bettws a sylwi bod ein pwrpasau yn cyd-fynd. Fe arweiniodd hynny at sgyrsiau ynglŷn â sut y gallem gefnogi ein gilydd mewn ffordd fwy ffurfiol.”
Dyma’r cyfnod preswyl creadigol cyntaf yn Tanio a gobeithiwn y bydd yn parhau ym mhellach.
“Unwaith i ni benderfynu symud ymlaen gyda’r gwneuthurwr ffilmiau preswyl, fe wnaeth i ni feddwl sut y gallai’r ffordd hon o weithio dyfu ac rydyn ni’n gobeithio gweithio gydag ymarferydd dawns cymunedol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.”
Bydd cael ymarferydd creadigol yn preswylio yn Tanio o fudd i’r cwmni mewn sawl ffordd ac rydym ni yn Tanio yn gobeithio y gall fod yn help llaw yng ngyrfaoedd y bobl greadigol.
“Yn ystod y pandemig des i hyd yn oed yn fwy ymwybodol o freuder gwaith artistiaid ar ei liwt ei hun ac yn ei dro, eu talu. Dyma ffordd y gallwn ymrwymo i gefnogi artistiaid gyda ffi fisol am ddeuddeg mis, yn ogystal â defnyddio ein hadnoddau, gofod swyddfa, lle ac amser i ddatblygu gwaith. ”
Gweler mwy o waith Chris Lloyd yma.