Deffro’r Tymhorau
Rydyn ni wedi bod yn rhedeg ein prosiect cyffrous Deffro’r Tymhorau sy’n ymgysylltu â disgyblion Cyfnod Allweddol 2 gan ddefnyddio Celfyddydau’r Goedwig fel cyfrwng addysgu a dysgu i helpu i ddarganfod dulliau a strategaethau y gall plant eu defnyddio i fynegi eu teimladau a datblygu llythrennedd emosiynol yn sgil COVID-19.
Gan ddefnyddio cyfuniad o ymwybyddiaeth ofalgar, gemau tîm, gweithgareddau creadigol yn yr awyr agored fel gwneud Cartrefi i Bryfed, Bwydwyr Adar allan o Afalau yn ogystal â Cwcis Emosiwn allan o Bren a’r Goron y Goedwig i ddatblygu trafodaethau llesiant, mae plant wedi bod yn cymryd rhan mewn “byd cwbl newydd o hwyl yn yr awyr agored.” (Athrawes Ysgol Gynradd)
Yn dilyn y cyflwyniad cyntaf ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud, gan weithio mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd lleol, rydyn ni wedi sylwi bod plant yn dod yn agosach at natur, yn fwy hyderus yn yr awyr agored, yn fwy creadigol, yn hapusach ac yn fwy caredig.
Rydyn ni wedi cynhyrchu Pecyn Cymorth Deffro’r Tymhorau cynhwysfawr, gan gynnwys opsiynau SEN/ALN, i’ch galluogi i gyflwyno’r prosiect yn eich lleoliad ysgol. Mae’r prosiect yn digwydd dros saith wythnos, un diwrnod yr wythnos.
Os hoffech wybod rhagor am brynu’r pecyn cymorth, yr hyfforddiant neu gyflwyno’r prosiect yn eich lleoliad gan ein tîm, cysylltwch â [email protected] neu gallwch weld ein hopsiynau cyflwyno Ysgol Goedwig yma.
Y Cyllidwyr
Ariennir y prosiect hwn gan waith a ariannwyd gan BIPCTM trwy BAVO a RCT Link.
Dyma’r ffilmiau sy’n gysylltiedig â Deffro’r Tymhorau sydd i’w gweld ar ein tudalen deledu Tanio TV:
- Ffrâm Flodau
- Dreamcatcher Helyg
- Cwcis Emosiwn allan o Bren
- Cartref i Bryfed
- Plannu Bylbiau
- Person allan o Frigau
- Mandala ar y Llawr
- Creaduriaid Clai
- Ffon Hud Helyg
- Coron y Goedwig
Dyfyniadau
From the participants
“I enjoyed going outside more.”
“I liked doing art outside.”
“I like watching nature and playing games.”
“I wouldn’t normally go outside but now I love it.”
“Colouring pebbles outside made me feel a lot happier than indoors.”
From teachers,
“It opened up a world of fun outside.”
“The mindfulness made us feel really calm and ready for our day.” “
My pupils were so much more engaged in creativity outdoors than inside.”
“We are definitely going to use Spring Forward in our Wellbeing Wednesdays.”
We will use Spring Forward in our planning for the future.”