Yr Ardd Pili-Palod
Mae Proses Yr Ardd Pili-Palod yn ffordd o ddefnyddio creadigrwydd i ymgysylltu a gwella bywydau pobl sy’n unig ac yn ynysig ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedden ni am greu amgylchedd diogel lle gall pobl gwrdd ag eraill, teimlo cysylltiad, dod o hyd i weithgareddau ystyrlon ac adeiladu ar eu cryfderau a’u doniau. Roedden ni am ddefnyddio dull grymusol o weithio mewn ffordd gydweithredol i wella lles ac ansawdd bywyd y rhai sy’n cymryd rhan. Roedd y sesiynau celf a chrefft wythnosol yn cynnig amgylchedd diogel a chefnogol i ysgogi newid positif, ac roedd y gweithgareddau’n annog cyfranogwyr i archwilio a mynegi eu hunain yn rhydd o farn, i gael hwyl, ac i feddwl yn greadigol a gwella eu sgiliau cyfathrebu.
Dros y flwyddyn, cymerodd pobl ran mewn ystod eang o weithgareddau celf, gan gynnwys paentio, darlunio, gwehyddu helyg, gwneud torchau, collage a llawer mwy. Dywedodd cyfranogwyr eu bod, dros amser, wedi gwneud ffrindiau newydd, yn teimlo’n llai ynysig, yn fwy hyderus, ac yn gallu ymdopi’n well â’r hyn yr oedd gan fywyd i’w daflu atyn nhw.
Dyfyniadau
“… Dw i wrth fy modd gyda’r Ardd Pili-Palod, dw i ddim yn gwybod beth fyddwn i’n ei wneud hebddi”
“… Mae wedi rhoi’r hyder i fi y gwnes i ei golli pan fu farw fy ngŵr ac mae wedi fy helpu i fynd mas o’r tŷ a chwrdd â phobl newydd.”
“…wneud torchau oedd fy hoff weithgaredd – mae gen i fy un i yn fy nghyntedd o hyd i’m hatgoffa o’r hyn y galla i ei gyflawni”