Galwad am Gerddorion!

Rydyn ni’n edrych am hwyluswyr gweithdai cerddoriaeth i weithio gyda ni ar ein prosiect newydd ‘Tiwnio Lan’ sydd wedi’i ariannu gan Atsain.

Bydd ‘Tiwnio Lan’ yn gweithio gyda phobl ifanc o gefndiroedd dan anfantais sydd efallai heb gael llawer o brofiad o greu cerddoriaeth. Mae’r prosiect yn cael ei chyd-ddylunio gan y bobl ifanc, felly i ddechrau hoffwn ni iddyn nhw brofi cymaint â phosib o wahanol steiliau a dynesfeydd i greu cerddoriaeth.

Mae ein grŵp yn Fetws, Pen-y-bont yn cwrdd ar nos Lun gyda phobl ifanc 11-16 oed. Bydd ail grŵp ym Maesteg yn gweithio gyda phobl ifanc 16-25 oed hefyd yn ddechrau ar noson wahanol.

Rydyn ni’n edrych am diwtoriaid i redeg gweithdai 1.5 awr ar ôl ysgol ac y tal yw £85 y sesiwn.

Os ydych chi’n gyfansoddwr caneuon, bitbocsiwr, cynhyrchydd dawns dan ddaear, arweinydd côr neu rywun sy’n creu cerddoriaeth mewn ffordd wahanol, sy’n cyfuno cerddoriaeth gyda drama, yn creu cerddoriaeth ar gyfer ffilm, neu sydd gyda dynesfa unigryw, byddwn ni’n hapus iawn i glywed ohonoch chi.

Bydd angen i chi cael profiad o weithio gydag ymddygiad heriol oherwydd mae’r bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gydag yn aml gydag anghenion amryfal. Bydd hefyd angen i chi cael gwiriad DBS gyfoes (neu fod yn fodlon i gael un).

Os hoffwch gymryd rhan, os gwelwch yn dda danfonwch CV ynghyd a pharagraff eglurhaol yn dweud tipyn bach am eich dynesfa/arbenigedd i [email protected]

Os hoffwch mwy o wybodaeth neu i drafod am y prosiect os gwelwch yn dda cysylltwch gyda Tom: [email protected] neu ffoniwch 07927 104900.